Hafan Cymraeg Hafan Cymraeg Newyddion Amdanom Ni Cysylltu â Ni I Rieni a Gofalwyr I Blant a Phobl Ifanc I Weithwyr Proffesiynol Home

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru

Adborth

English

English

Problemau Bwyta a Pwysau


Mae’r rhan fwyaf ohonom, rhyw dro yn ein bywydau, yn teimlo’n anhapus ynghylch y ffordd rydym yn edrych ac yn ceisio ei newid. Os ydym yn llai, yn fyrrach, neu heb ddatblygu cymaint â’n ffrindiau neu’n brodyr neu chwiorydd, gall hyn wneud i ni deimlo yn boenus ac yn ddihyder.  Ac mae cael eich herian am eich maint a’ch pwysau yr un mor ddrwg. Mae gan lawer ohonom syniadau ynghylch y maint a’r siâp y dymunem fod.


Mae ffasiwn a ffrindiau yn dylanwadu’n gryf ar ein syniadau ynghylch beth sy’n edrych yn dda. Efallai eich bod yn cymharu eich hun gyda lluniau mewn cylchgronau.  Mae’r modelau yn y cylchgronau hyn yn aml iawn yn afiach o denau. Efallai eich bod wedyn yn poeni eich bod yn dew, hyd yn oed os ydy eich pwysau yn normal ar gyfer eich oed a’ch taldra.


Mae yna amrywiaeth o feintiau a siapiau sydd o fewn yr ystod iach normal.  Os oes gennych ddiddordeb, mae tablau yn dangos taldra a phwysau normal.  Gofynnwch i’ch nyrs ysgol, Meddyg Teulu neu lyfrgell.  Mae eich pwysau, fel eich taldra a’ch edrychiad yn dibynnu llawer ar eich corffolaeth, eich genynnau a’ch diet.


Sut ydw i’n cadw o fewn pwysau iach a normal?


Mae angen diet iach ar ein cyrff yn cynnwys yr holl bethau sydd eu hangen i ddatblygu’n normal – proteinau, carbohydradau, braster, mwynau a fitaminau.  Os ydych yn gwneud heb bethau sydd yn eich tyb chi’n eich gwneud yn dew, fel carbohydradau neu fraster, gall rwystro eich corff rhag datblygu’n normal.


Mae yna rhai rheolau syml i’ch helpu i gadw pwysau iach.  Maen nhw’n swnio’n reit hawdd, ond efallai yn anoddach i’w rhoi ar waith. Gofynnwch i’ch teulu a’ch ffrindiau i’ch helpu i lynu at y rheolau yma – ac efallai y bydd yn eu helpu hwythau i gadw ychydig yn iachach!



Os ydych yn dilyn yr awgrymiadau hyn, bydd yn haws i chi reoli’ch pwysau, ac ni fyddwch yn flysig am fwydydd melys o hyd.


Beth am ddulliau gwyrthiol o golli pwysau – ydyn nhw’n gweithio?


Mae ‘na un newydd o’r rhain bron bob wythnos.  Yn anffodus, yn aml iawn maen nhw’n gwneud fwy o ddrwg nac o dda.



Beth sy’n achosi problemau bwyta?


Mae problemau neu drafferthion yn yr ysgol, ynghylch eich ffrindiau, neu’ch cartref yn gyffredin.  Gall eich chwant bwyd gael ei effeithio gan straen, trafferth, pryder neu flinder.


Mae rhai pobl yn troi at fwyd fel rhyw fath o gysur.  Gall hyn arwain at fwyta mwy na sydd angen arnom, a gwneud i ni ennill pwysau.


Mae dechrau poeni am fynd yn dew yn hawdd  a gweld ein hunain yn bwyta hyd yn oed mwy  i gysuro ein hunain. Mae’n gylch dieflig. Mae ‘bwydydd i’ch cysuro’ yn aml yn cynnwys llawer o fraster neu siwgr – fferins, bisgedi, siocled, cacenni a thoes. Gall fod yn ddefnyddiol cadw dyddiadur i gofnodi beth rydych yn ei fwyta i wneud yn siŵr nad ydych yn llithro i’r arferiad.


Os ydych yn anhapus neu dan straen, mae canolbwyntio ar eich pwysau ac arferion bwyta yn gallu bod yn haws na chanolbwyntio ar y pethau sy’n eich poeni chi.  Os bydd hyn yn mynd ymlaen am gyfnod digon hir, gallwch ddatblygu anhwylder bwyta.  


Beth ydy’r gwahanol fathau o anhwylderau bwyta?


Yr anhwylder bwyta mwyaf cyffredin yw ennill gormod o bwysau (gordewdra).  Mae anhwylderau bwyta eraill yn llai cyffredin.  Mae anorecsia nerfosa a bwlimia yn digwydd rhan amlaf i ferched ifanc ond gall ddigwydd i fechgyn.


Os ydy pryderon wedi cael effaith ar eich awydd am fwyd neu bwysau, bydd siarad â rhywun yn siŵr o helpu.


Sut ydw i’n gwybod fod gen i anhwylder bwyta?


Pan fydd gennych chi anhwylder bwyta efallai y byddwch yn sylwi ar rai arwyddion.


Os ydych yn dioddef o anorecsia:



Yn rhyfedd iawn, er eich bod yn mynd yn deneuach, byddwch yn teimlo’n dewach. Dydyn ni ddim yn deall yn iawn pam bod hyn yn digwydd, ond mae’n gwneud yr anhwylder bwyta yn anoddach i’w oresgyn.


Mae pobl sy’n dioddef o anorecsia fel arfer yn aros yn fywiog– ac yn dweud eu bod yn iawn – er eu bod mor denau nes eu bod yn osgoi dadwisgo o flaen eraill neu’n gwisgo dillad llac i guddio eu maint.


Gall anorecsia nerfosa fod yn beryglus os yw’n mynd allan o reolaeth. Os ydych yn ferch, a bod eich mislif wedi stopio, mae hyn yn rhybudd sy’n golygu bod angen help arnoch ar unwaith (wnaiff hyn ddim digwydd os ydych yn cymryd y bilsen atal-cenhedlu – felly os ydych, peidiwch ag aros am hyn).  


Os nad ydych yn bwyta llawer, gallwch deimlo eich bod ar lwgu! Yna fe allwch chi droi at byliau o orfwyta – bwyta llwythi o fwyd yn gyflym iawn.  Mae pyliau o orfwyta hefyd yn digwydd mewn anhwylder bwyta o’r enw bwlimia.


Os oes gennych bwlimia:



Mae gan rai pobl symptomau anorecsia a bwlimia


Beth all ddigwydd o ganlyniad i fod ag anhwylder bwyta?


Gall bod ag anhwylder bwyta eich andwyo gan effeithio ar eich canolbwyntio, eich addysg neu’ch gwaith, eich bywyd cymdeithasol, er enghraifft, mynd allan gyda ffrindiau, a chael effaith ar eich iechyd emosiynol a meddyliol.  Gall hefyd achosi problemau iechyd corfforol sylweddol a difrifol yn y tymor byr a’r tymor hir.


Sut ydw i’n cael help?


Os ydych yn poeni am eich pwysau neu’n teimlo bod gennych anhwylder bwyta, dylech gael help.  Siaradwch ag:



Eich Meddyg Teulu neu Nyrs Practis ydy’r person gorau ar gyfer gwybodaeth sylfaenol a chyngor ar ddiet a phwysau. Os oes angen help mwy arbenigol arnoch, gallan nhw eich cyfeirio at arbenigwr neu awgrymu eich bod yn gweld gweithiwr proffesiynol yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).  Tîm o arbenigwyr ydy’r rhain yn cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, seicotherapyddion a nyrsys arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc.  Gallan nhw eich helpu i ddod â’ch bwyta a’ch pwysau yn ôl dan reolaeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn gwella gyda help.


Fersiwn i’w Brintio