Hafan Cymraeg Hafan Cymraeg Newyddion Amdanom Ni Cysylltu â Ni I Rieni a Gofalwyr I Blant a Phobl Ifanc I Weithwyr Proffesiynol Home

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru

Adborth

English

English

Straen Wedi Trawma


Beth yw Straen Wedi Trawma?


Mae plant a phobl ifanc weithiau’n gweld neu’n clywed am ddigwyddiadau dychrynllyd a pheryglus iawn, neu rhan o ddigwyddiadau fel hyn, er enghraifft damwain ffordd, niwed difrifol neu drosedd ofnadwy.  Gall hyn achosi ymateb i straen trawma, sy’n cael effaith ar y ffordd rydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.

Mae’n bwysig cofio mai ymateb normal yw hyn i ddigwyddiad annormal.


Mae’n bwysig cofio bod yr uchod yn disgrifio ymateb normal i ddigwyddiad annormal a bydd yn rhan fwyaf o bobl, ymhen amser a chyda cefnogaeth teulu a ffrindiau yn dod dros brofiadau fel hyn heb fod angen help.


Ond i rai pobl, mae dioddef trawma pan oedd ofn mawr arnynt, neu deimlad o fethu gwneud ddim byd neu deimlad o arswyd yn cychwyn ymateb sy’n gallu para am fisoedd neu flynyddoedd hyd yn oed.  Yr enw ar hyn yw Anhwylder Straen Wedi Trawma, neu PTSD (sef Post Traumatic Stress Disorder).


Pa bryd mae Straen Trawma yn troi’n Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)?


Er bod unigolion yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol i ddigwyddiadau trawmatig, i rai pobl, mae’r digwyddiad yn teimlo mor fawr ac mor anodd i’w oresgyn fel ei fod yn amhosibl gwneud synnwyr o’r wybodaeth.


Dyma un ffordd o’i egluro - mae fel pe bai gennych wardrob sy’n rhy fach i ddal eich dillad i gyd - mae eich siwmper trwchus newydd yn rhy fawr ac yn mynnu disgyn allan.


Pan fyddwn yn wynebu sefyllfa beryglus neu frawychus, mae ein corff yn ymateb i’r bygythiad drwy naill ai ymladd, ffoi neu rewi.


Weithiau mae digwyddiadau trawmatig yn rhy fawr i’w hymladd.


Os bydd llygoden yn gweld cath, bydd y llygoden yn gwybod fod y gath yn llawer mwy na hi.  Felly os bydd yn ceisio ymladd y gath mae’r siawns o fyw yn fach iawn.


Os yw’r gath yn effro, mae’n rhaid i’r llygoden ddyfalu y fydd yn gallu rhedeg yn ddigon cyflym (ffoi) i fod yn gynt na’r gath.  Os yw hyn yn anhebygol, bydd y llygoden fwy na thebyg yn rhewi (smalio ei bod wedi marw) yn y gobaith na fydd y gath yn ei gweld.


Mae’r dull o bwyso a mesur risg i gyd yn digwydd mewn llai nag eiliad a’r strategaeth sydd fwyaf tebygol o helpu’r llygoden i oroesi yw’r un sy’n cael ei ddewis.  Mewn geiriau eraill, mae eich ymennydd yn ceisio’ch cadw chi’n fyw, pan fydd yn penderfynu p’un ai i ymladd, i ffoi neu i rewi.


Yn anffodus, yr hyn a wyddwn ni am PTSD yw pan fo pobl yn methu bod yn weithredol (yn rhewi) na rheoli digwyddiad trawmatig (yn ffoi), y maent yn fwy tebygol o ddatblygu PTSD.  Efallai mai’r rheswm am hyn yw y gall ymateb emosiynol unigolyn achosi iddo gwestiynu ei syniad ef amdano’i hun, wrth geisio gwneud synnwyr o’r digwyddiad trawmatig. Efallai y bydd yn teimlo’n euog neu’n llawn galar - neu hyd yn oed yn beio ei hun am beidio gwneud mwy i atal neu rwystro’r digwyddiad - hyd yn oed pe na byddai wedi gallu gwneud dim.


Yn ogystal â’r ymatebion emosiynol hyn i’r trawma, mae tri phrif fath o symptom sy’n cael eu defnyddio i wneud diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma:


1.  Meddyliau Digroeso


Bydd meddyliau ac atgofion am y digwyddiad yn ymwthio’n ddigroeso i’ch meddwl.  Bydd rhai pobl yn ail-brofi’r atgof, delweddau, arogleuon neu synau’r digwyddiad trawmatig er eu bod yng nghanol gwneud rhywbeth arall.  Er enghraifft, efallai eu bod mewn gwers yn yr ysgol ond yn meddwl am beth ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad trawmatig.


Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y meddwl yn ceisio ail-chwarae’r atgof  er mwyn gwneud synnwyr ohono.  Ond oherwydd eu fod mor fawr ac mor anodd i’w oresgyn (ydych chi’n cofio’r wardrob?) Mae’n anodd gwneud synnwyr ohono.  Gall meddyliau ymwthiol sy’n digwydd drosodd a throsodd wneud i chi deimlo eich bod wedi’ch ‘dal’ yn y trawma, er bod rheswm yn dweud wrthych ei fod yn y gorffennol.


I rai plant, gall hyn achosi anawsterau canolbwyntio a’u gwneud yn fwy pigog nag arfer.  Gall hefyd achosi iselder, a phroblemau cysgu a hwyl ddrwg.


Gall plant ifanc fod yn fwy ofnus, yn glynu mwy i’w rhieni ac yn poeni am gael eu gwahanu.  Efallai y byddent yn cymryd camau yn ôl yn eu datblygiad ac yn dechrau gwlychu’r gwely neu sugno’u bawd eto.  Hwyrach y byddant yn cael pyliau o golli tymer a ffrwydradau emosiynol.  Gall plant ail-greu’r profiad trawmatig mewn lluniau ac yn eu chwarae fel ffordd o geisio gwneud synnwyr ohono.


Bydd rhai pobl yn cael ôl-flachiau o’r digwyddiad.  Dyma pan mae’n teimlo fel eich bod yn ail-fyw’r digwyddiad am ychydig o funudau yn eich meddwl, fel petaech yn edrych ar ailddarllediad ohono, sy’n brofiad dychrynllyd ac yn achosi loes fawr i’r unigolyn.  Gall pethau cyffredin sbarduno ôl-flachiau a meddyliau digroeso.  Er enghraifft, petaech wedi cael damwain car yn y glaw, ar ddiwrnod glawog efallai y byddwch yn dechrau meddwl am y trawma neu’n ail-fyw’r profiad.


2.  Osgoi a Mygu Teimladau


Efallai y byddwch yn delio â phoen emosiynol eich teimladau drwy geisio peidio teimlo dim byd - yn gwbl ddideimlad yn emosiynol.  Efallai y bydd rhai pobl yn yfed gormod o alcohol neu’n defnyddio cyffuriau i geisio ‘mygu’r’ poen emosiynol.  Neu efallai y byddwch yn fwriadol yn osgoi sefyllfaoedd sy’n atgoffa chi am y trawma.  Er enghraifft os ydych wedi bod mewn damwain car, efallai y byddwch yn osgoi ffyrdd neu raglenni teledu am geir hyd yn oed, oherwydd eu bod yn eich atgoffa chi am y ddamwain.  Mae’n bosibl y byddwch hyd yn oed yn ceisio osgoi’r bobl sy’n atgoffa chi o’r trawma a ddim yn siarad amdano.


Mae rhai pobl yn cadw’n brysur er mwyn symud eu meddwl oddi ar y digwyddiad trawmatig.  Er bod hyn yn ymddangos fel syniad da, nid yw’n gweithio’n dda iawn, oherwydd ar adegau tawelach (amser gwely er enghraifft)) pan nad oes pethau i dynnu eu sylw, maent yn aml iawn yn cael hunllefau neu feddyliau digroeso am y digwyddiad trawmatig.


3.  Bod yn ‘Wyliadwrus’ neu’n ‘Or-effro’


Mae’n golygu teimlo’n anniddig ac ‘ar binnau’ llawer o’r amser a ‘chadw golwg’ ar yr amgylchedd yn chwilio am ‘berygl’.  Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus, yn cael trafferth ymlacio neu gysgu.  Oherwydd bod eich meddwl mor brysur yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel, efallai y byddwch yn fwy pigog na’r arfer ac yn dioddef symptomau eraill yn gysylltiedig â phryder, fel dolur rhydd, curiad calon afreolaidd a theimladau o banig ac ofn.


Trwy fod yn ‘wyliadwrus’ mae’ch ymennydd yn ceisio gweld a oes unrhyw berygl o’ch cwmpas, mae’n gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.  Yn anffodus, nid yw eich meddwl wedi sylweddoli mai profiad o’r gorffennol yw’r trawma a gawsoch, a dyma pam efallai’ch bod yn edrych dros eich ysgwydd o hyd ac yn cadw golwg nad ydych mewn unrhyw berygl.


Triniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)


Mae’n bosib cael cymorth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma.


Os ewch i weld Meddyg Teulu, Gweithiwr Cymdeithasol neu Nyrs Ysgol gall y rhain eich helpu drwy eich cyfeirio at rywun sy’n arbenigo mewn helpu pobl ifanc â PTSD.


Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn rhoi cyngor ar ba fath o driniaeth sydd orau ar gyfer gwahanol fathau o anhwylderau ac yn argymell mae’r driniaeth orau ar gyfer PTSD yw naill ai Therapi Ymddygiad Gwybyddol sy’n Canolbwyntio ar y Trawma (TF-CBT) neu Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad Llygad (EMDR).  Mae’r ddau therapi yn golygu eich bod yn gorfod meddwl am y digwyddiad trawmatig er mwyn diweddaru’r wybodaeth sydd gennych amdano, fel y gellir ei adael yn y gorffennol, yn lle ei fod yn dal i effeithio arnoch chi yn y presennol.


Er bod hyd y therapi yn dibynnu ar y math o drawma a gawsoch chi a sut mae wedi effeithio arnoch chi, 8 - 12 sesiwn o therapi unigol yw hyd y driniaeth sy’n cael ei argymell gan NICE.


I’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma, mae hyn yn golygu ar gyfartaledd tua 3 mis o therapi unigol i gael eu bywydau yn ôl, yn rhydd o symptomau PTSD.