Hafan Cymraeg Hafan Cymraeg Newyddion Amdanom Ni Cysylltu â Ni I Rieni a Gofalwyr I Blant a Phobl Ifanc I Weithwyr Proffesiynol Home

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru

Adborth

English

English

Fersiwn i’w Brintio

Anhwylder Deubegwn


Beth ydy anhwylder deubegwn?


Mae anhwylder deubegwn hefyd yn cael ei alw weithiau’n iselder manig, anhwylder affeithiol deubegwn neu anhwylder hwyliau deubegwn.


Afiechyd ydy anhwylder deubegwn sy’n golygu bod hwyliau rywun yn newid neu’n pendilio o un pegwn i’r llall.


Mae pawb yn cael adegau yn eu bywyd pan fyddan nhw’n teimlo’n hapus iawn (y math o deimlad pan ydych ar fin mynd ar eich gwyliau) neu’n drist iawn (y teimlad pan fydd eich anifail anwes wedi marw).  Dim ond pan mae’r newid hwyliau hyn yn anghyffredin neu’n eithafol y gall hyn ddatblygu’n anhwylder.  Mae’n gallu amrywio o fod yn anarferol o hapus ( yr enw arall arno ydy mania neu hypomania), i fod yn anarferol o drist (iselder) am ddim rheswm amlwg.


Beth sy’n ei achosi?


Er nad ydym yn deall y rhesymau’n llawn, mae anhwylder deubegwn yn tueddu i redeg mewn teuluoedd.  Mae pobl sy’n dioddef o anhwylder deubegwn yn cael pyliau ar adegau o straen neu o fethu cysgu.


Pa mor gyffredin ydy o?


Mae anhwylder deubegwn yn anghyffredin iawn mewn plant ifanc, ond mae cryn dipyn o astudiaethau yn awgrymu ei fod yn gallu dechrau yn ystod yr arddegau ac mewn oedolion ifanc.  Mae’n effeithio tua 1 ym mhob 100 o oedolion.


Beth ydy’r symptomau?


Gall rywun sy’n dioddef o anhwylder deubegwn gael:



Mae mathau gwahanol o’r anhwylder hwn yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydy’r symptomau neu pa mor hir maen nhw’n para.


Gall newid hwyliau ddigwydd yn sydyn iawn weithiau , o fewn oriau neu ddyddiau (cylchdro cyflym ydy’r enw arall ar hyn). Mewn rhai pobl, mae’r newid hwyliau yn llai difrifol (cyclothymia ydy’r enw arall ar hyn).


Rhwng y teimladau uchel ac isel, fel arfer mae cyfnodau ‘normal’ sy’n gallu para am wythnosau neu fisoedd.  Fodd bynnag, i rai pobl, yn arbennig os ydy’r anhwylder wedi bod arnyn nhw ers amser, gall y cyfnodau hyn o ‘normalrwydd’ fod yn fyrrach neu’n anoddach i’w gweld.


Isod mae rhestr o symptomau sy’n gallu digwydd ym mhob un math o bwl o’r anhwylder.  Mae’n rhaid i chi gael o leiaf un pwl manig neu hypomanig i gael diagnosis o anhwylder deubegwn.


Mae’n rhaid i chi gael llawer o symptomau ar yr un pryd am o leiaf nifer o ddyddiau.  Os oes ond un symptom, yna mae’n annhebygol o fod yn anhwylder deubegwn.


Symptomau sy’n gallu digwydd yn ystod pwl manig neu ‘uchel’



Math ysgafn o mania ydy hypomania (llai difrifol ac am gyfnodau byrrach). Yn ystod y cyfnodau hyn gall pobl deimlo’n gynhyrchiol ac yn greadigol iawn ac felly’n gweld gwerth yn y profiadau hyn.


Fodd bynnag, os nad yw hypomania’n cael ei drin, gall ddatblygu’n fwy dwys ac arwain at bwl o iselder.  Ar y pegwn eithaf, mae rhai pobl hefyd yn datblygu ‘seicosis’.


Symptomau sy’n gallu digwydd yn ystod pwl o iselder



Yn ystod pwl ysgafnach, efallai eich bod yn teimlo’n drist neu’n ddigalon drwy’r amser.  Ond yma hefyd ar y pegwn eithaf gall rhai pobl ddatblygu seicosis.


Symptomau sy’n gallu digwydd yn ystod pwl cymysg



Beth ydy effeithiau anhwylder deubegwn?


Gall y meddyliau, teimladau ac ymddygiadau eithafol effeithio ar nifer o agweddau ar fywyd ac arwain at, er enghraifft:



Sut mae ei drin?


Yn y tymor byr, mae’r triniaethau yn amrywio yn dibynnu a ydych chi’n uchel neu’n isel a pha mor ddwys ydy’r cyflwr.


Pan fo gennych chi symptomau dwys, efallai y bydd angen meddyginiaethau arnoch ac weithiau cyfnod yn yr ysbyty hefyd i helpu’ch symptomau a’ch cadw yn ddiogel.


Yn y tymor hir, nod y driniaeth ydy’ch helpu chi i gael bywyd iach, cytbwys a chynhyrchiol.  Bydd deall y cyflwr, rheoli’r symptomau ac atal yr afiechyd rhag dod yn ôl  i gyd yn rhan o hyn.


Isod rydym yn rhoi disgrifiad byr o bob agwedd o’r driniaeth.


Help i ddeall eich hun a’r afiechyd (seicoaddysg)


Mae’n bwysig iawn eich bod chi a’ch teulu yn cael help i ddeall anhwylder deubegwn, y ffordd orau o ddelio ag o a beth i’w wneud i leihau’r siawns ohono’n dod yn ôl.  Efallai y byddwch chi a’ch teulu yn sylwi ar ‘bethau’ sy’n cychwyn eich pyliau a/neu arwyddion cynnar yn rhybuddio bod pwl ar ddechrau.  Drwy fod yn ymwybodol o’r rhain gall helpu i ostwng y siawns o gael pyliau a gall cael help ar gamau cyntaf pwl ei rwystro rhag mynd yn waeth.


Triniaethau siarad (hefyd yn cael eu galw’n ‘therapïau seicolegol’)


Gall y rhain gynnwys gwahanol fathau o therapïau, er enghraifft


Therapi Ymddygiad Gwybyddol  (CBT)


Mae’r unigolyn ifanc, weithiau gyda’i deulu, yn dysgu deall y cysylltiadau rhwng ei deimladau a’i feddyliau a sut mae hyn yn effeithio ar ei ymddygiad (gweler ein taflen wybodaeth ar CBT).


Triniaeth yn canolbwyntio ar y teulu (therapi teuluol)


Gall y teulu i gyd gael help i leihau straen, datrys problemau a chyfathrebu’n well.


Meddyginiaeth


Mae meddyginiaeth yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd y mae anhwylder deubegwn yn cael ei drin, yn arbennig os ydy’r pyliau’n ddrwg.


Mae’r dewis o feddyginiaeth yn gallu dibynnu ar y math o bwl (manig neu iselder).  Mae pawb yn wahanol, ac felly bydd y math o feddyginiaeth sy’n cael ei argymell hefyd yn wahanol.


Gall sgil effeithiau meddyginiaethau fod yn rhai ysgafn neu’n rhai difrifol.  Bydd eich seiciatrydd yn gallu dweud wrthych chi beth ydy’r rhain a beth ellir ei wneud i helpu.  Mae’n rhaid pwyso a mesur y risg o sgil effeithiau yn erbyn y risg o effeithiau niweidiol yr afiechyd ar fywyd rywun.


Fel arfer mae meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio ar gyfer pyliau uchel/manig, tra bod meddyginiaethau gwrthiselder yn cael eu defnyddio ar gyfer pyliau isel/iselhaol. Efallai hefyd y bydd arnoch angen meddyginiaethau o’r enw sefydlogyddion hwyliau (e.e. lithium) sy’n helpu chi i gadw eich hwyliau yn sefydlog yn ystod pyliau a rhwng pyliau.


Mae’n bwysig bod meddyginiaethau ond yn cael eu cymryd pan fo’r problemau yn ddwys.  Os ydych chi wedi cael mwy nag un pwl difrifol o afiechyd, mae’n bwysig eich bod yn dal i gymryd meddyginiaeth er mwyn lleihau’r risg o byliau eraill.  Efallai y bydd yn rhaid cymryd meddyginiaeth am fisoedd neu hyd yn oed am flynyddoedd.  Gall rhai pobl dan oruchwyliaeth feddygol roi’r gorau i gymryd eu meddyginiaeth pan fydden nhw wedi gwella ac yn teimlo’n dda ers amser.


Efallai y bydd angen archwiliad corfforol a phrofion arnoch ( prawf gwaed er enghraifft) cyn cychwyn meddyginiaeth neu tra byddwch yn ei chael.  Mae’n bwysig eich bod yn cael eich gweld yn rheolaidd gan eich meddyg neu seiciatrydd os oes meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi i chi.


Am faint fydd yr afiechyd arna i?


Gall y pyliau uchel neu isel bara o ychydig o wythnosau i rai misoedd.  Mae’n bwysig sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun a cheisio dal i aros yn obeithiol.  Un neu ddau bwl fydd rhai pobl yn ei gael.  Ond i eraill gall y cyfnodau uchel ac isel ddigwydd drwy gydol eu bywyd fel oedolyn.  Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn dysgu byw gyda’r cyflwr a dulliau o’i reoli.


Beth allaf i ei wneud?



Sut ydw i’n cael help?


Efallai y bydd yn rhaid i chi weld eich Meddyg Teulu i siarad am eich pryderon.  Fe all eich cyfeirio chi at eich Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) am help mwy arbenigol.


Os oes gennych gynghorydd ysgol/ nyrs neu fentor, fe all fod yn ddefnyddiol i siarad gydag un ohonyn nhw a hefyd fe allen nhw eich cyfeirio chi at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  


Gwefannau Defnyddiol:


MDF The Bipolar Association

www.mdf.org.uk

Mae’n helpu pobl sy’n dioddef o anhwylder deubegwn / iselder manigm, eu perthnasauoth, ffrindiau ac eraill sy’n gofalu.


CALL - Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned

Yn cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a cefnogaeth

Llinell Gymorth: 0800 132 737  Yn agored  24/7

www.callhelpline.org.uk


Rethink Mental Illness

www.rethink.org

Elusen sy’n helpu pobl wedi’u heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol i wella a chael gwell ansawdd o fywyd.


Sane

www.sane.org.uk

Elusen genedlaethol sy’n gwella ansawdd bywyd ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan afiechyd meddwl.


The STEADY Project

www.steady.org.uk

Rhaglen hyfforddiant hunan-reoli ar gyfer pobl ifanc (18-25 oed) sy’n dioddef o anhwylder deubegwn.


Young Minds

www.youngminds.org.uk

Elusen wedi ymrwymo i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.