Hafan Cymraeg Hafan Cymraeg Newyddion Amdanom Ni Cysylltu â Ni I Rieni a Gofalwyr I Blant a Phobl Ifanc I Weithwyr Proffesiynol Home

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru

Adborth

English

English

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)


Mae ‘Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD)’, ‘Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', ‘Anhwylder Gorginetig' a ‘Gorfywiogrwydd' yn wahanol dermau sy'n cael eu defnyddio gan bobl a gweithwyr proffesiynol. Weithiau gall y gwahaniaethau rhwng terminoleg achos dryswch. Mae'r holl dermau uchod yn disgrifio problemau plant sy'n orfywiog ac yn cael trafferth wrth ganolbwyntio.


Beth yw ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd)?


Anhwylder ymddygiadol yw ADHD sydd yn aml yn dod yn amlwg yn ystod plentyndod cynnar. Mae'r ymddygiadau oherwydd problemau sylfaenol sef sylw gwael, gorfywiogrwydd a bod yn fyrbwyll.


Mae llawer o blant, yn enwedig rhai dan bump oed, heb fod yn talu sylw ac yn aflonydd. Nid yw hyn yn golygu eu bod yn dioddef gan ADHD o angenrheidrwydd. Bydd y diffyg talu sylw neu orfywiogrwydd yn mynd yn broblem pan fyddant yn ormodol, o'u cymharu â phlant eraill o'r un oed, a phan fyddant yn effeithio ar y plentyn, ei (h)ysgol, ei fywyd/bywyd cymdeithasol a'i fywyd/bywyd teulu.


Pa mor gyffredin ydyw?


Gall oddeutu 2% - 5% o blant oedran ysgol ddioddef gan ADHD. Mae'n effeithio ar fechgyn yn fwy cyffredin na merched.


Beth sy'n achosi ADHD?


Nid ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi'r anwylderau hyn. Gall ADHD redeg mewn teuluoedd. Mae'n fwy tebygol mewn plant sydd wedi cael profiadau trawmatig arwyddocaol fel plentyn. Weithiau bydd rhieni yn teimlo eu bod yn cael eu beio am beidio â rheoli eu plentyn, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod rhiantu gwael yn achosi ADHD yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod rhieni yn gallu chwarae rôl hanfodol wrth helpu a rheoli plentyn ag ADHD.


Beth yw'r symptomau?


Gall ADHD achosi gwahanol ymddygiadau gan ddibynnu ar yr oedran, sefyllfa (h.y. ysgol, cartref, cae chwarae) a hyd yn oed cymhelliad (e.e. wrth wneud gweithgaredd neu rywbeth mae plentyn yn hoffi).


Ni fydd pob plentyn yn profi'r holl symptomau. Mae hyn yn golygu gall rhai cael problemau â sylw gwael yn unig, ac mae rhai eraill yn orfywiog yn bennaf.


Gall plant â phroblemau â sylw ymddangos yn anghofus, wedi drysu, ymddangos i beidio â gwrando, anhrefnus, cymryd oesoedd i ddechrau gwneud hynny ac yna eu gorffen yn anaml.


Bydd plant â gorfywiogrwydd yn ymddangos yn aflonydd, diamynedd, llawn egni, ‘bob amser ar fynd’. Efallai y byddant yn ymddangos yn uchel, swnllyd ac yn parablu yn gyson.


Bydd plant â symptomau byrbwylltra yn gwneud pethau heb feddwl. Byddant yn cael anhawster wrth aros am eu tro mewn gemau neu mewn ciw, ac yn torri ar draws pobl mewn sgwrs.


Pa broblemau eraill gall unigolyn ag ADHD eu cael?


Gall plant ag ADHD gael problemau eraill fel anawsterau dysgu, awtistiaeth, anhwylder ymddygiad, pryder ac iselder. Hefyd gall problemau niwrolegol fel ticiau, syndrom Tourette ac epilepsi fod yn bresennol. Gall plant ag ADHD gael problemau â chyd-drefniant, sgiliau cymdeithasol ac ymddangos i fod yn anhrefnus.


Am ba mor hir bydd ganddo / ganddi ADHD?


Gall oddeutu 1 ymhob 3 plentyn â diagnosis ADHD dyfu allan o'r cyflwr ac ni fydd angen unrhyw driniaeth arnynt pan fyddant yn oedolion. Gall y mwyafrif sy'n derbyn triniaeth arbenigol, wedi'i theilwrio i'w hanghenion, gael budd sylweddol. Byddant wedi gallu dal i fyny â'u dysgu, gwella eu perfformiad yn yr ysgol a gwneud ffrindiau.


Mae rhai yn gallu ymdopi trwy addasu eu gyrfaoedd a bywyd cartref. Fodd bynnag, gall rhai ohonynt gael problemau mawr, hyd yn oed fel oedolion, sydd angen triniaeth. Efallai y byddant yn cael trafferth ag anawsterau mewn perthnasau, yn y gwaith, o ran eu hwyliau a defnyddio cyffuriau neu alcohol.


Sut mae'n cael diagnosis?


Nid oes un prawf syml, pendant ar gyfer ADHD. Mae gwneud diagnosis yn gofyn am asesiad arbenigol, sydd fel arfer yn cael ei wneud gan seiciatrydd plant neu baediatregydd arbenigol. Mae'r diagnosis yn cael ei wneud trwy adnabod patrymau ymddygiad, arsylwi'r plentyn, cael adroddiadau am ei (h)ymddygiad yn y cartref ac yn yr ysgol. Weithiau efallai y bydd prawf cyfrifiadurol yn cael ei wneud i gynorthwyo'r diagnosis. Hefyd bydd angen profion arbenigol ar rai plant gan seicolegydd clinigol neu addysgol.


Sut mae'n cael ei drin?


Mae plentyn sy'n dioddef gan ADHD angen triniaeth ar draws pob sefyllfa lle mae'r anawsterau'n digwydd. Mae hyn yn golygu cefnogaeth a help yn y cartref, yn yr ysgol, gyda ffrindiau ac yn y gymuned.


Yn gyntaf, mae'n bwysig iawn bod y teulu, athrawon a gweithwyr proffesiynol yn deall cyflwr y plentyn a sut mae'n effeithio arno/arni. Wrth iddo/iddi dyfu mae angen i'r unigolyn ifanc fod yn ymwybodol o'i gyflwr/chyflwr a sut i'w reoli.


Efallai y bydd angen i blant a rhieni ddefnyddio strategaethau rheoli ymddygiad fel siartiau gwobrwyo. Efallai y bydd rhaglenni hyfforddi rheini yn ddefnyddiol i rieni/teuluoedd, yn enwedig wrth reoli'r ymddygiadau heriol sy'n gallu codi oherwydd gorfywiogrwydd y plentyn.


Yn yr ysgol, mae plant angen cynlluniau a chefnogaeth addysgol penodol i helpu â'u gwaith bob dydd yn yr ystafell dosbarth a hefyd gwaith cartref. Hefyd efallai y bydd angen help arnynt i adeiladu eu hyder, datblygu eu sgiliau cymdeithasol. Mae'n bwysig bod cyfathrebu da rhwng y cartref, yr ysgol a'r gweithwyr proffesiynol sy'n trin y plentyn er mwyn sicrhau bod symptomau'r ADHD yn cael eu trin gystal â phosibl, a bod y plentyn yn cyflawni hyd eithaf ei (g)allu.


Gall meddyginiaeth chwarae rôl bwysig wrth reoli ADHD cymedrol i ddifrifol. Gall meddyginiaeth helpu i leihau gorfywiogrwydd a gwella canolbwyntio. Mae'r gwell canolbwyntio yn rhoi'r cyfle a'r amser i'r plentyn ddysgu ac ymarfer sgiliau newydd.


Yn aml bydd plant yn dweud bod meddyginiaeth yn eu helpu i ddod ymlaen â phobl, i feddwl yn fwy clir, i ddeall pethau yn well a theimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu hunain. Ni fydd pob plentyn ag ADHD angen meddyginiaeth.


Beth alla i wneud?


Gall plentyn ag ADHD gael ymddygiadau anodd iawn yn y cartref, yn yr ysgol neu'r tu allan. Fodd bynnag, byddant yn dal i fod angen ffiniau a disgyblaeth. Nid yw cael ADHD yn golygu eu bod yn gallu eich anufuddhau neu ymddwyn yn amhriodol (e.e. rhegi neu fod yn dreisgar). Gall ffordd o fyw iach â diet cytbwys a gweithgareddau helpu.


Gall plant ag ADHD fynd yn rhwystredig yn hawdd oherwydd eu cyfnod canolbwyntio gwael a lefelau egni uchel. Gall rhai o'r pethau canlynol helpu i reoli'r anawsterau hyn:



Mae llawer o rieni yn teimlo ei bod yn ddefnyddiol mynychu rhaglenni rhiantu, waeth a yw'r plentyn yn cael triniaeth ar gyfer ADHD ai peidio. Mewn rhai ardaloedd, cynigir rhaglennu rhiantu a grwpiau cefnogi yn benodol ar gyfer rhieni plant ag ADHD.


Sut alla i gael help?


Gall eich meddyg teulu, athro neu nyrs ysgol eich cyfeirio i arbenigwr i gwblhau 'asesiad' a chynnig triniaeth. Efallai y byddant yn eich cyfeirio i baediatregydd (doctor plant) neu'r gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (GIMPPI).


Gwybodaeth ychwanegol am feddyginiaeth ar gyfer ADHD


Pa feddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio wrth drin ADHD?


Mae'r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin ADHD yn perthyn i ddau grŵp yn fras:



Effaith symbylyddion yw gwneud i bobl deimlo yn fwy gwyliadwrus, egnïol, ac effro. Os amheuir bod unigolyn yn dioddef gan ADHD, gallant wella sylw a lleihau gorfywiogrwydd. Ymhlith y symbylyddion a ddefnyddir i drin ADHD mae methylphenidate (a arferai gael ei alw yn 'ritalin’ yn gyffredin) a dexamphetamine.


Mae methylphenidate ar gael mewn gwahanol ffurfiau. Mae methylphenidate rhyddhau di-oed (immediate release methylphenidate) yn weithredol am gyfnod byr. Mae'n cael ei ddefnyddio oherwydd ei bod yn hyblyg o ran dosys a gellir ei ddefnyddio i bennu'r lefel cywir wrth newid dos.


Mae methylphenidate rhyddhau araf neu wedi'i addasu (slow or modified release methylphenidate) yn gweithio am 8 – 12 awr a gellir ei roi unwaith y dydd. Mae'n fwy cyfleus, oherwydd nid oes angen i'r plentyn gymryd dos yn yr ysgol, sy'n lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r anhwylder hwn.


Yn ôl eu natur, nid yw meddyginiaeth nad yw'n symbylyddion yn gwneud pobl yn wyliadwrus neu fywiog. Fodd bynnag, yn achos ADHD, gallant wella symptomau diffyg sylw a gorfywiogrwydd.  Mae'r rhain yn cynnwys meddyginiaethau fel atomoxetine.


Weithiau bydd meddyginiaethau eraill yn cael eu defnyddio i helpu â phroblemau â chwsg ac ymddygiad heriol sy'n gysylltiedig ag ADHD.


Sut mae'r rhain yn gweithio?


Mae meddyginiaethau'n gweithredu ar rai cemegion yn yr ymennydd o'r enw ‘noradrenalin’. Ymddengys eu bod yn effeithio ar y rhannau o'r ymennydd sy'n rheoli sylw ac yn trefnu ein hymddygiad.


Nid ydynt yn gwella ADHD. Maent yn helpu i reoli symptomau sylw gwael, gorfywiogrwydd neu fyrbwylltra.


Pa feddyginiaeth fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer fy mhlentyn?


Fel arfer bydd meddyginiaeth symbylydd, methylphenidate, yn cael ei rhoi ar bresgripsiwn yn gyntaf. Bydd y math o symbylydd sy'n cael ei roi ar bresgripsiwn yn dibynnu ar nifer o bethau fel symptomau  eich plentyn, eich dewis o driniaeth, pa mor hawdd yw rhoi'r feddyginiaeth a hyd yn oed argaeledd / cost y feddyginiaeth.


Os bydd methylphenidate yn achosi sgil-effeithiau annymunol neu os nad yw'n gweithio, efallai y bydd symbylydd arall (dexamphetamine) neu feddyginiaeth nad ydynt yn symbylyddion yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn. Weithiau bydd plentyn yn ymateb i wahanol ffurf o methylphenidate.


Sut fydda i'n gwybod ei bod yn gweithio?


Byddwch yn darganfod:



Weithiau bydd yr ysgol neu athrawon yn sylw ar y gwelliant cyn i chi wneud.


Beth yw'r sgil-effeithiau?


Fel yn achos y rhan fwyaf o feddyginiaeth, efallai y bydd rhai effeithiau di-eisiau. Fodd bynnag, ni fydd pawb yn cael sgil-effeithiau ac mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn ysgafn ac yn diflannu wrth barhau i gymryd y feddyginiaeth. Mae sgil-effeithiau yn llai tebygol os bydd y dos yn cael ei gynyddu'n raddol pan fydd y tabledi'n cael eu cymryd am y tro cyntaf. Bydd rhai rhieni yn poeni am gaethiwed i feddyginiaeth, ond nid oes unrhyw dystiolaeth dda i awgrymu bod hyn yn broblem.


Dyma rai o sgil-effeithiau cyffredin methylffenidat:



Ymhlith y sgil-effeithiau llai cyffredin i edrych amdanynt mae:



Yn y tymor hir, weithiau bydd tyfiant yn arafu pan fydd plant yn cymryd methylphenidate. Mae ymchwil yn dangos y gall taldra oedolyn gael ei ostwng gan 2.5 cm trwy gymryd methylphenidate.


Nid yw'r rhestr hon o sgil-effeithiau yn hollgynhwysol. Os byddwch yn sylwi unrhyw beth anarferol, mae'n bwysig cysylltu â'ch doctor ar unwaith.


A oes unrhyw beth y mae angen i mi wybod cyn rhoi'r feddyginiaeth?


Cyn i chi roi unrhyw feddyginiaeth, dywedwch wrth eich doctor am:



A oes unrhyw brofion arbennig cyn cymryd y meddyginiaethau, neu wrth eu cymryd?


Cyn cymryd y feddyginiaeth, dylai'ch plentyn gael ei (g)wirio yn gorfforol yn enwedig o ran cyfradd ei galon/chalon, pwysedd gwaed, tyfiant ac unrhyw broblemau meddygol eraill.


Weithiau efallai y bydd angen prawf gwaed neu brawf olrhain y galon i fesur gweithgaredd trydanol y galon, sef electrocardiogram (ECG).


Wrth gymryd y feddyginiaeth, bydd eich doctor yn monitro cyfradd galon eich plentyn, ei bwysedd/phwysedd gwaed, pwysau a thaldra yn rheolaidd ynghyd â gwirio am unrhyw sgil-effeithiau.


Beth y mae angen i mi wybod cyn rhoi'r feddyginiaeth?


Rhai pethau defnyddiol i'w gwybod:


Cofiwch



Peidiwch â



Am ba mor hir mae angen iddo/iddi gymryd meddyginiaeth?


Mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc angen y feddyginiaeth nes iddynt orffen eu haddysg, neu gyfnod yn yr ysgol, o leiaf. Efallai y bydd angen i nifer fach ohonynt ei chymryd pan fyddant wedi tyfu i fyny hyd yn oed.


Mae rhai plant angen meddyginiaeth ar amseroedd penodol yn unig, er enghraifft wrth fynychu ysgol, ac nid oes angen iddynt ei chymryd ar benwythnosau neu wyliau ysgol.


Byddai eich doctor yn gwirio yn rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn, a oes angen iddo / iddi barhau i gymryd y feddyginiaeth.

Gall cymryd y meddyginiaethau hyn effeithio ar yrru a hyd yn oed rhai gyrfaoedd fel ymuno â'r fyddin. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn ymwybodol o hyd a bydd angen trafod hyn â'i (d)doctor wrth iddo/iddi dyfu.

Efallai y bydd angen esboniadau a chefnogaeth ar bobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny, am gymryd y feddyginiaeth. Gall stopio cymryd y feddyginiaeth achosi symptomau i ddychwelyd, a gall rhai pobl ifanc roi eu hunain mewn risg o ran eu haddysg, eu gwaith ac yn gymdeithasol trwy fod yn fyrbwyll a chymryd alcohol neu gyffuriau.


Cofiwch: os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach am y feddyginiaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â'ch doctor neu fferyllydd.

Fersiwn i’w Brintio