Hafan Cymraeg Hafan Cymraeg Newyddion Amdanom Ni Cysylltu â Ni I Rieni a Gofalwyr I Blant a Phobl Ifanc I Weithwyr Proffesiynol Home

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru

Adborth

English

English

Gofidiau â Pryderon


Rydym i gyd yn teimlo’n ofnus neu yn poeni o dro i dro.  Gall ofn fod yn beth da gan ei fod yn ein cadw rhag mynd yn rhy agos at berygl. Weithiau, gallwn deimlo’n ofnus neu boeni am bethau’n ‘ormodol’ a gall hyn amharu ar ei gallu i fwynhau bywyd.  

Mae’r math yma o ofn neu boeni yn cael ei alw’n bryder.

Pa mor gyffredin yw hyn?

Mae pryder yn un o broblemau  iechyd meddwl cyffredin. Mae gan bron i 300 mil o bobl ifanc Prydain anhwylder pryder. Felly nid ydych ar ben eich hun. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dioddef yn dawel. Mae’n bwysig adnabod eich problemau a chwilio am help yn enwedig pan mae’n dechrau effeithio ar eich bywyd pob dydd.

Sut deimlad yw pryder?

Pan fyddwn mewn perygl, mae ein hymennydd yn dweud wrth ein corff i fod yn barod i redeg i ffwrdd yn gyflym. Mae hyn yn golygu os ydych yn pryderu efallai y byddwch yn teimlo fel hyn yn eich meddwl, yn ogystal â’n gorfforol.

 

Mae symptomau pryder yn cynnwys:

 

Yn gorfforol efallai y byddwch yn teimlo’n:



Yn eich meddwl efallai byddwch yn:



Pa fath o wahanol bryderon y gallaf ddioddef?


Mae pryderon yn cael eu rhannu ar sail am beth yw’r ofn neu’r poeni.  Mae’r grwpiau hefyd yn help i ddeall eich anawsterau ac i’w trin.


Ofnau a Ffobiâu


Efallai y byddwch yn cofio bod ofn y tywyllwch neu bryfaid pan oeddech chi’n fach. Mae hyn yn normal ac fel yr ydym yn mynd yn hŷn, rydym fel arfer yn tyfu allan o’r ofnau neu yn gallu eu rheoli heb boeni’n ormodol amdanyn nhw. Weithiau gall pryderon am bethau penodol (e.e. nodwyddau, anifeiliaid) neu sefyllfaoedd (e.e. tywyllwch, uchder) fod yn gryf iawn ac ni fyddant yn cilio. Maent yn gallu ein rhwystro rhag gwneud pethau arferol ac maent yn ymyrryd neu’n cymryd drosodd eich bywyd. Mae’r ofnau yma yn cael eu galw yn ffobiâu. Efallai ein bod angen mwy o help i ddygymod â ffobia.


Pryder Cyffredinol


Mae rhai pobl yn teimlo’n bryderus y rhan fwyaf o’r amser heb reswm amlwg. Pan mae’n ddrwg iawn, gall eich rhwystro rhag canolbwyntio yn yr ysgol neu gael hwyl gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Weithiau gall teimlo’n bryderus a thristwch gyd-fynd. Mae’n bosibl eich bod angen help i fedru teimlo ac ymdopi’n well.


Pryder gwahanu


Pryder gwahanu yw teimlo’n bryderus neu boeni pan fyddwch i ffwrdd o’ch rhieni/teulu/gofalwyr. Mae’n arferol i blant ifanc iawn deimlo’n ofnus neu boeni pan na fyddan nhw gyda’r bobl sy’n eu gwarchod fel arfer. Os yw hyn yn dal i fod yn broblem pan rydych yn hŷn neu yn eich arddegau, gall ei gwneud hi’n anodd mynd i’r ysgol neu fynd allan gyda ffrindiau. Os yw hyn yn digwydd mae’n well cael help.


Pryder cymdeithasol


Yn syml, swildod difrifol iawn yw hyn. Efallai eich bod yn gyfforddus efo pobl rydych chi’n eu hadnabod yn dda, ond yn teimlo’n bryderus wrth fod mewn llefydd neu achlysuron cymdeithasol neu gyda phobl newydd fel mewn parti.  Gall sefyll i fyny mewn dosbarth neu wasanaeth fod yn anodd iawn i chi, gan y byddwch yn poeni am wneud camgymeriadau neu yn meddwl beth fydd pobl yn ei feddwl ohonoch chi. Mae hyn yn golygu eich bod yn tueddu i osgoi sefyllfaoedd sy’n cynnwys pobl eraill. Pan mae hyn yn digwydd, mae’n bwysig chwilio am help.


Anhwylder panig


Mae pwl o banig yn bwl o bryder eithafol sy’n ymddangos i fod yn digwydd heb reswm. Gall deimlo fel bod eich meddwl yn hollol allan o reolaeth. Mae gan byliau o banig ddechrau a diwedd; nid ydynt yn barhaus, er efallai eich bod yn poeni pryd fydd y pwl nesaf.


Yn ystod pwl, bydd gennych deimlad corfforol o bryder (gweler uchod) gyda meddyliau dychrynllyd, fel eich bod yn mynd i farw, neu ‘wallgofi’. Mae’n anghyffredin i blant ifanc yn cael pyliau o banig, heb ffurf arall o bryder fel y rhai a nodir uchod. Mae’n fwy cyffredin mewn plant yn eu harddegau. Pan fydd yr ofn o gael pwl neu byliau cyson yn eich rhwystro rhag mwynhau eich bywyd neu wneud pethau arferol, gelwir hyn yn anhwylder panig.


Gall rhai plant a phobl ifanc fod â mathau eraill o bryder, fel anhwylder straen ôl-drawmatig neu anhwylder gorfodaeth obsesiynol.


Beth sy’n achosi gofidiau a phryderon?


Nid ydym yn gwybod yn iawn beth sy’n achosi’r salwch hwn. Fodd bynnag, weithiau mae’n bosibl gweld fod y problemau wedi dechrau ar ôl profiadau gofidus neu frawychus yn eich bywyd (fel cael eich bwlio yn yr ysgol, bod â salwch, colli rhywun sy’n agos neu rieni’n gwahanu).


Efallai y byddwch yn gallu rheoli un peth, ond pan mae nifer o bethau’n digwydd ar yr un pryd, fel rhieni’n gwahanu, symud tŷ a newid ysgol, gall hyn fod yn llawer mwy anodd.


Mae pryder yn tueddu i fod yn rhedeg mewn teuluoedd, felly os oes rhywun yn eich teulu yn tueddu i boeni llawer, efallai y byddwch chi’n fwy tebygol o boeni hefyd.  Gall peth o hyn gael ei basio ymlaen yn y genynnau, ond gallwch hefyd ‘ddysgu’ ymddygiad pryderus trwy fod o gwmpas pobl sy’n bryderus. Os yw eich teulu neu eich ffrindiau yn pryderu neu’n llym, gall wneud eich pryder yn waeth.  Yn yr achos yma gall helpu i siarad â nhw am hyn.


Fydda i’n tyfu allan o hyn?


Gall rhai pobl dyfu allan o bryder, ond gall rhai barhau i brofi pryder pan fyddant yn tyfu i fyny. Y newyddion da yw y gellir trin hyn – mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl gwneud pethau i leihau’r teimladau o bryder.


Beth alla i ei wneud?


Mae llawer y gallwch ei wneud i deimlo’n well gyda help eich teulu a ffrindiau.

 


Os na fydd hyn yn ddigon, efallai y byddwch angen help mwy arbenigol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs ysgol, a all eich anfon i weld rhywun o’r gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc lleol (GIMPPI).


Sut mae hyn yn cael ei drin?


Bydd y math o help arbenigol a gynigir yn dibynnu ar beth sy’n achosi eich pryder. Fel arfer bydd yn fath o therapi siarad, fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Gall CBT eich helpu i ddeall a delio gydag achos eich pryder ac i ddod o hyd i strategaethau ymdopi. Mae’n bosibl y byddwch yn cael eich gweld ar ben eich hun neu gyda’ch teulu.


Ambell waith, unwaith y byddwch wedi trio therapi siarad, byddwch hefyd yn cael meddyginiaeth i helpu os na fydd eich pryder wedi gwella llawer. Fel arfer, defnyddir cyffur gwrth-iselder, a elwir yn SSRI.


Mae byw gyda phroblemau pryder yn anodd, ond mae’n bosibl ei drin ac nid oes raid iddo ddal i wneud i chi deimlo’n anhapus.


Gwefannau Defnyddiol


42nd Street

Gwasanaeth cefnogi ym Manceinion ar gyfer pobl ifanc oed 13 i 15 sy’n dioddef o straen

Llinell Gymorth: 0161 832 0170 (Dydd Llun, Dydd Iau a Dydd Gwener: 12.30pm i 4.30pm)

www.42ndstreet.org.uk


CALL - Llinell Gwrando a Chyngor Cymunedol

Yn cynnig gwasanaeth cefnogaeth a gwrando cyfrinachol

Llinell Gymorth: 0800 132 737 ar agor 24/7

www.callhelpline.org.uk


The C.A.L.M. Zone

Sefydliad sydd wedi’i anelu at ddynion ifanc dan straen

Llinell Gymorth: 0800 58 58 58 (Dydd Sadwrn i Ddydd Mawrth: 5.00 pm i 12.00 hanner nos)

www.thecalmzone.net


MIND

Sefydliad sy’n gweithio i greu gwell bywyd i bawb â phrofiad o anhwylder meddyliol

Llinell Gymorth: 0845 766 0163 (Dydd Llun i Ddydd Gwener: 9.00am i 5.00pm)

www.mind.org.uk


Fersiwn i’w Brintio