Hafan Cymraeg Hafan Cymraeg Newyddion Amdanom Ni Cysylltu â Ni I Rieni a Gofalwyr I Blant a Phobl Ifanc I Weithwyr Proffesiynol Home

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru

Adborth

English

Hunan-Niweidio


Beth ydy hunan-niweidio?


Hunan-niweidio ydy’r term a ddefnyddir pan fo rhywun yn niweidio ei hun ar bwrpas, nid yn gwneud hynny ar ddamwain. Mae enghreiffitiau cyffredin yn cynnwys cymryd ‘gorddos’ (gwenwyno eich hun), taro, torri neu losgi eich hun, tynnu’ch gwallt neu bigo’ch croen, neu dagu’ch hun.  Mae hunan-niweidio bob amser yn arwydd fod rhywbeth mawr o’i le.


Pam bod pobl ifanc yn niweidio eu hunain?


Yn anffodus mae rhai pobl ifanc yn defnyddio hunan-niweidio fel ffordd o geisio delio â theimladau cymhleth iawn sy’n pentyrru y tu mewn iddyn nhw.  Wrth gwrs mae’n beth difrifol iawn a gall fod yn fygythiad ar fywyd.  Mae pobl yn dweud gwahanol bethau i geisio egluro pam maen nhw’n gwneud hyn.



Pwy sydd mewn peryg?


Mae pwl o hunan-niweidio yn cychwyn yn aml iawn ar ôl ffrae efo rhiant neu ffrind agos.  Pan fo bywyd teuluol yn cynnwys llawer o gam-drin, esgeuluso neu wrthodiad, mae pobl yn fwy tebygol o niweidio eu hunain.  Mae pobl ifanc sy’n dioddef o iselder, neu o anhwylder bwyta, neu unrhyw broblem iechyd meddwl difrifol arall, yn fwy tebygol o hunan-niweidio.  Felly hefyd


Mae llawer o bobl ifanc sy’n hunan-niweidio ac yn dymuno lladd eu hunain hefyd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl neu broblemau personoliaeth; yn aml mae’r ymgais i ladd ei hun yn dod ar ôl digwyddiad anodd ym mywyd yr unigolyn ifanc, ond mewn achosion eraill, efallai nad yw’r unigolyn wedi dangos unrhyw fath o arwydd fod pethau’n anodd iddo.  

Weithiau bydd eraill yn gwybod am broblemau’r unigolyn - anawsterau tymor hir yn yr ysgol, yn y cartref neu efo’r heddlu o bosib. Bydd rhai’n cael eu gweld gan gynghorwr, seiciatrydd neu weithiwr cymdeithasol yn barod. Mae cyfradd hunanladdiad ymysg dynion ifanc wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.


Mae’r perygl o hunanladdiad yn uwch os ydy’r unigolyn:



Sut alla i helpu?



Fel rhiant, mae’n anodd iawn delio â phlentyn / unigolyn ifanc sy’n niweidio ei hun neu’n gwneud ymgais i ladd ei hun. Mae’n naturiol i chi deimlo’n flin, yn euog neu wedi’ch brawychu. Efallai y bydd yn anodd i chi gymryd y peth o ddifrif neu wybod beth sydd orau i’w wneud. Ceisiwch beidio cynhyrfu a dangoswch gydymdeimlad, hyd yn oed os byddwch wedi dychryn ac yn teimlo’n flin; bydd hyn yn helpu’r plentyn / unigolyn i wybod y gallwch chi ddelio â’i boen ac y gall ddod atoch chi am help a chefnogaeth.


Fe all hyn fod yn anodd os oes yna lawer o broblemau neu ddadleuon yn y cartref.  Neu, efallai eich bod chi’ch hun yn rhy bryderus, yn rhy flin neu dan ormod o bwysau eich hun i allu helpu’r plentyn/unigolyn yn iawn. Os felly, dylech ofyn am gyngor gan eich meddyg teulu.  


Os athro ydych chi, mae’n bwysig annog myfyrwyr i ddweud wrthych os oes un o’u ffrindiau mewn helynt, yn poeni am rywbeth, neu’n dangos arwyddion o hunan-niweidio.  Yn aml mae ffrindiau yn poeni am ddweud cyfrinachau ac efallai y bydd yn rhaid i chi egluro pa mor ddifrifol ydy hunan-niweidio a’i fod yn gallu bygwth bywyd yr unigolyn.  Dyma’r rheswm pam na ddylai byth gael ei gadw’n gyfrinach.


Ble alla i gael help arbenigol?


Mae unrhyw un sydd wedi cymryd gorddos, neu geisio lladd ei hun, angen asesiad brys gan feddyg cyn gynted â phosib hyd yn oed os ydy o’n edrych yn iawn.


Fel arfer mae hyn yn golygu archwiliad yn yr Adran Achosion Brys (A&E) agosaf. Os nad ydych yn siŵr a oedd yr unigolyn ifanc am wneud amdano’i hun neu beidio, mae’n well mynd â fo i’r ysbyty.  Os ydy o wedi cymryd gorddos, weithiau mae’n cymryd amser i’r effaith niweidiol ddod i’r amlwg, ac efallai y bydd angen triniaeth feddygol.  Paracetamol yw’r gorddos mwyaf cyffredin sy’n cael ei gymryd ym Mhrydain.  Gall achosi niwed difrifol i’r iau, a phob blwyddyn mae hyn yn arwain at nifer o farwolaethau. Gall hyd yn oed gorddos bychan fod yn angheuol.


Os ydy’r unigolyn ifanc yn niweidio ei hun drwy dorri ei hun neu drwy ffyrdd  eraill, mae’r un mor bwysig ei fod yn cael help. Ewch i gael gair efo’ch meddyg teulu ac fe all eich cyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).


Sut gaiff hunan-niweidio ei drin?


Dylai pob unigolyn ifanc sy’n mynd i’r ysbyty ar ôl ceisio lladd ei hun neu niweidio ei hun gael asesiad iechyd meddwl arbenigol cyn gadael.


Mae’n anodd dadansoddi beth sydd wedi gyrru’r unigolyn i niweidio ei hun neu a yw o ddifrif yn dymuno lladd ei hun neu beidio; mae gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yr arbenigedd i wneud synnwyr o’r sefyllfaoedd cymhleth hyn.


Fel arfer mae rhieni neu ofalwyr yn rhan o’r asesiad a’r driniaeth. Mae hyn yn gwneud hi’n haws i ddeall y cefndir i’r hyn sydd wedi digwydd, a phenderfynu gyda’i gilydd a oes angen mwy o help.


Mae asesiadau mewn Adran Achosion Brys (A&E) sy’n cynnwys sesiwn ‘therapi siarad’ byr yn helpu pobl ifanc i ddod yn ôl am fwy o help a chefnogaeth. Mae llawer o bobl ifanc yn hunan-niweidio neu’n ceisio eto i ladd eu hunain os nad ydyn nhw’n cael yr help sydd ei angen arnynt.


Fel arfer, ar wahân i unrhyw driniaeth gorfforol sy’n rhaid ei wneud ar unwaith, bydd y driniaeth ar gyfer hunan-niweidio ac ymgais i ladd eich hun yn cynnwys ychydig o sesiynau o ‘therapi siarad’ unigol neu gyda’r teulu. Bydd angen help arnynt i ddelio â’r teimladau anodd iawn sy’n achosi hunan-niweidio.


Hefyd bydd cynlluniau clir yn cael eu gwneud ynghylch sut i helpu’r unigolyn a’i ddiogelu. Bydd angen help ar rai pobl sy’n cael anhawster mawr i roi’r gorau i ymddygiad hunan-niweidiol yn y tymor byr i feddwl am ffyrdd llai niweidiol i ddelio â’u gofid.


Mae angen help ar deuluoedd i feddwl am ffyrdd i wneud yn siŵr nad yw’r ymddygiad peryglus yn digwydd eto, a sut i roi’r gefnogaeth angenrheidiol.  Bydd eich CAMHS lleol yn gallu helpu efo hyn.


Os yw iselder neu broblem iechyd meddwl difrifol arall yn rhan o’r broblem, bydd angen triniaeth.  Efallai bod rhai pobl ifanc sy’n hunan-niweidio wedi cael profiadau yn eu gorffennol sy’n  arbennig o boenus neu drawmatig.  Mae nifer fechan iawn o bobl ifanc sydd wedi ceisio lladd eu hunain yn parhau o ddifrif i fod eisiau marw.  Bydd angen help arbenigol ar y ddau grŵp yma dros gyfnod o amser.


Gwefannau Defnyddiol:


CALL - Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned

Yn cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a cefnogaeth

Llinell Gymorth: 0800 132 737  Yn agored  24/7

www.callhelpline.org.uk


Young Minds

Darparu gwybodaeth a chyngor ar iechyd meddwl plant a Llinell Gymorth Rhieni : 0800 802 5544

www.youngminds.org.uk


Childline

Gwasanaeth ffôn i blant sy’n gyfrinachol ac am ddim.  Llinell gymorth:  0800 11 11

www.childline.org


National Self-Harm Network

Elusen sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwasanaeth eiriolaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan hunan-niweidio yn uniongyrchol neu drwy eu rô fel gofalwyr

www.nshn.co.uk


Y Samariaid

Darparu gwasanaeth 24 awr sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol i unrhyw un sydd mewn argyfwng.  Llinell gymorth: 08457 909090

www.samaritans.org.uk


Galw Iechyd Cymru

Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor ar iechyd.  Ffôn 0845 46 47

www.nhsdirect.wales.nhs.uk

Fersiwn i’w Brintio